ElfynHOOKESDymuna Ann, Llinos, Sian a theulu'r diweddar Elfyn Hookes, Cae Brwyn, Chwilog ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth. Gwerthfawrogir yr holl gardiau, negeseuon ac ymweliadau. Diolch i'r Parchedig Ddr. Elwyn Richards am ei wasanaeth urddasol ar ddydd yr angladd, i Gwenan am y deyrnged hyfryd ac i Bryn Jones am gyfeilio. Diolch am y rhoddion hael tuag at Uned Dydd Alaw a Nyrsus Cymunedol Dwyfor. Ein diolch hefyd i Bryn a Rhodri o Henry Jones Cyf. am y gofal a'r trefniadau trylwyr. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates